Cymraeg

Mae’r Iaith Gymraeg yn ffynnu.

Dangosodd yr Arolwg o Ddefnydd o’r Iaith Gymraeg (2004) fod 21.7% o boblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg. Roedd hyn yn gynnydd o 20.5% yng nghyfrifiad 2001 ac o 18.5% yn 1991.

O ganlyniad i gynnydd yn y defnydd o’r Saesneg yng Nghymru roedd niferoedd y siaradwyr Cymraeg wedi bod yn disgyn am ddegawdau ond yn dilyn nifer o fesurau, gan gynnwys Deddf yr Iaith 1993, mae’r Gymraeg wedi dangos cryn gynnydd yn y blynyddoedd diwethaf ac mae ganddi statws cyfartal â’r Saesneg yn y sector gyhoeddus yng Nghymru. O’r 611,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, mae 62% yn defnyddio’r iaith yn feunyddiol ac mae 88% o siaradwyr rhugl yn defnyddio’r iaith bob dydd.

Ers rhai blynyddoedd bellach, mae addysgu’r Gymraeg wedi bod yn orfodol hyd at 16 oed ym mhob ysgol ac mae addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn parhau i ffynnu, sydd wedi bod yn ffactor pwysig yn nhroi’r trai ymysg y to ifanc.

Mae gan TALK training ymrwymiad cryf i gefnogi a hybu’r Iaith Gymraeg.

Mae TALK training yn anelu at fod yn sefydliad dwyieithog ac mae swm sylweddol o’n dogfennaeth wedi ei gyfieithu a’i gyhoeddi. Rydym eisoes yn cynnig hyfforddiant ar Sgiliau Allweddol trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae ystod o adnoddau Cymraeg ar gael yn ein canolfannau Skillbuild, (llyfrau gemau a meddalwedd). Mae Talktraining yn ymfalchïo yn y gwaith sy’n cael ei wneud â Bwrdd yr Iaith Gymraeg i ddatblygu Cynllun Iaith ar gyfer y sefydliad.

Dolenni cyswllt defnyddiol:


http://new.wales.gov.uk

Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru megis hysbysrwydd am eu polisïau iaith, ystadegau defnyddiol a dolenni cyswllt pellach. Ymwelwch â’r dudalen sydd wedi ei neilltuo ar gyfer yr Iaith Gymraeg.
http://www.bwrdd-yr-iaith.org.uk
www.bwrdd-yr-iaith.org.uk

Prif ddiben Bwrdd yr Iaith yw hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ymhob agwedd o fywyd i bawb yng Nghymru. Mae eu gwefan yn cynnwys adrannau ar bob agwedd o fywyd Cymraeg a Chymreig, o’i hanes i gyngor ar ddysgu a defnyddio’r iaith.
www.gwales.com
www.gwales.com

Mae’r wefan hon gan Gyngor Llyfrau Cymru yn eich galluogi i bori drwy wybodaeth am doreth o gyhoeddiadau yn yr Iaith Gymraeg a gan awduron o Gymru.
http://new.wales.gov.uk/topics/educationandskills/wfasub/welshforadults/?lang=en
http://new.wales.gov.uk

Gwybodaeth am y dulliau gorau i ddysgu Cymraeg, gan gynnwys cyrsiau, cymwysterau, dolenni cyswllt, adnoddau ar-lein ac mewn print, digwyddiadau a llawer mwy.
www.mentrau-iaith.com
www.mentrau-iaith.com

Mae Menter Iaith yn drefniant lleol sy’n cynnig cefnogaeth i gymunedau ddatblygu a chynyddu’r defnydd o’r Iaith Gymraeg yn yr ardal. Mae sawl un dros Gymru. Dyma’r dudalen lle gallwch chi ddod o hyd i ganghennau lleol, cyngor a gwybodaeth am ddigwyddiadau.
www.bbc.co.uk/wales/welshintheworkplace/
www.bbc.co.uk

Mae hi’n wefan amlbwrpas sy’n cynnig gwasanaeth dwyieithog llawn yng Nghymru. Mae tudalennau penodol ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Mae hefyd yn cynnig geiriadur ar-lein a modd i chi gael cymorth ieithyddol wrth ddefnyddio’r tudalennau Cymraeg. Mae sawl agwedd ddefnyddiol wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.
www.academi.org
www.academi.org

Yr Academi yw’r Asiantaeth sy’n hyrwyddo llenyddiaeth yng Nghymru ar gyfer awduron. Mae’n trefnu digwyddiadau, cyrsiau a chystadlaethau dros Gymru gyfan.
www.urdd.org
www.urdd.org

Mae’r Urdd yn fudiad deinamig ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae’n trefnu ystod o ddigwyddiadau dros Gymru gyfan: gwyliau, eisteddfodau, clybiau wythnosol a chystadlaethau o bob math.