Mae Skill Build yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (LICC) sydd yn paratoi dysgwyr 16-18 oed ar gyfer  gwaith. Cyfeirir dysgwyr atom trwy’r Gwasanaeth Gyrfaoedd. Mae’r rhaglen yn ymdrin ag asesiad trylwyr i ddynodi gallu a gobeithion gyrfa’r dysgwr, ynghyd â hyfforddiant yn y ganolfan a phrofiad gwaith. Mae cwrs Skill Build fel arfer yn para 13 wythnos a gobeithiwn erbyn diwedd y rhaglen y bydd ein dysgwyr yn barod i wneud penderfyniadau da am eu dyfodol ac yn gallu dechrau llwyddo yn y eu bywyd gwaith.

Mae ein Canolfannau Dysgu yng Nghymru wedi’u lleoli yng Nghwmbrân a Choed Duon.

Mae’r rhaglen hyfforddi’n ymdrin â/ag:

Sgiliau Allweddol Lefel 1 City and Guilds mewn:

  • Datrys Problemau
  • Cyfathrebu
  • Cymhwyso Rhif
  • Gweithio ag Eraill
  • Gwella Dysgu’ch Hunan
  • T.G.

Gall dysgwyr sy’n cwblhau’r rhaglen Sgiliau Sylfaenol yn llwyddiannus fynd ymlaen i wneud CGC Lefel 1 mewn pynciau megis Gweinyddu Busnes, Gwasanaeth Cwsmeriaid, Technoleg Gwybodaeth, ayyb.

Profiad Gwaith
Trwy ein partneriaeth â busnesau lleol, gall dysgwyr gael profiad gwaith mewn sgiliau ymarferol, amgylcheddau gwaith, agwedd gwaith ayyb. Rydym yn dal i weithio’n agos â’n dysgwyr pan fyddant ar brofiad gwaith i’w helpu i gwblhau’u rhaglen hyfforddi, gan anelu at fynd ymlaen i gyflawni CGC Lefel 1 yn eu pwnc dewisedig. Mae ein haseswyr yn ymweld â nhw yn eu gweithle’n rheolaidd, gan adeiladu ar eu sgiliau’n barhaus a chadw cofnod o’r holl alluoedd newydd maen nhw’n eu hennill. Mewn nifer o achosion, rydym yn falch o ddweud bod y cwmnïau sydd wedi derbyn ein dysgwyr wedi’u bodloni gymaint eu bod nhw’n cynnig swyddi parhaol iddynt.