PF (Prentisiaeth Fodern)

Mae Prentisiaethau Modern yn rhoi’r cyfle i chi gael NVQ Lefel 3 tra byddwch yn parhau i weithio ac ennill arian. Maen nhw hefyd yn defnyddio dulliau addysgu modern sy’n creu fformiwla dysgu effeithiol fydd yn eich galluogi i gyflawni nodau eich busnes.

Os ydych chi’n uchelgeisiol ac am symud ymlaen yn eich gyrfa gall PF fod o fudd mawr i chi.

Trwy PF cewch y sgiliau ymarferol, yr hyder a’r cymwysterau cydnabyddedig fydd yn hwb sylweddol i yrfa o’r radd flaenaf. Mae’n gyfle i chi ddysgu pethau newydd a’u gweithredu syth bin.

Mae rhai o’r bobl mwyaf llwyddiannus yn y wlad wedi dechrau eu gyrfaoedd fel prentisiaid a dyma’ch cyfle i’w dilyn. Rydym ar hyn o bryd yn cynnig y prentisiaethau canlynol:

Gallwn hefyd gynnig parhau â’r rhaglen Reoli a symud dysgwyr ymlaen hyd at lefel 4 sydd wedyn yn Brentisiaeth Fodern Uwch (PFU).

Nid yw’r rhestr hon yn derfynol gan ein bod yn datblygu rhaglenni hyfforddiant newydd yn gyson. Os nad oes cwrs sy’n addas i chi,  cysylltwch â ni am wybodaeth bellach.