Mae angen i bob busnes, beth bynnag fo’i faint, gyflogi pobl sydd â’r sgiliau priodol a’r wybodaeth o sut i wneud defnydd o’r sgiliau hynny os yw am gyflawni ei amcanion busnes, gynnal y gallu i gynhyrchu elw, gadw staff ac annog twf a ffyniant.

Trwy adeiladu perthnasoedd busnes cadarn a thrwy weithio mewn partneriaeth â chleientiaid, rydym ni yn TALK.training yn dyfeisio hyfforddiant cost effeithiol ac effeithlon a rhaglenni datblygu staff sydd yn:

  • Datblygu unigolion ac yn annog datblygiad personol
  • Sicrhau bod y sgiliau a ddatblygir gan unigolion yn cysylltu’n uniongyrchol â gofynion busnes
  • Caniatáu i unigolion gyrraedd eu llawn botensial
  • Cefnogi twf busnes trwy becynnau dysgu hyblyg
  • Defnyddio fframweithiau galwedigaethol sefydledig sydd yn arwain at gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol
  • Defnyddio arian llywodraeth sydd ar gael
  • Cael eu cefnogi gan sefydliadau/cyrff achrededig yn y sector ddiwydiannol

WAGgreen dragoninvestors in peoplePositive about disabled people ESF