PFS (Prentisiaeth Fodern Sylfaenol)
Mae Prentisiaethau Modern Sylfaenol yn arwain at NVQ Lefel 2 a defnyddir hwy yn aml fel camau tuag at Brentisiaeth Fodern
Bydd Prentisiaethau Modern Sylfaenol yn eich gosod ar y llwybr cyflym i gaffael y sgiliau sydd eu hangen arnoch wrth eich gwaith a chewch siawns i ddefnyddio eich sgiliau newydd yn fuan e.e. trwy drin offer newydd neu ymdrin â chwsmeriaid yn uniongyrchol.
Bydd y sgiliau y byddwch yn eu dysgu yn eang a hyblyg a byddant yn eich galluogi i wneud sawl tasg yn y diwydiant a ddewiswyd gennych. Mae hynny’n golygu y byddwch yn cadw pob opsiwn ar agor a byddwch yn gaffaeliad mawr i’ch cyflogwr.
Bydd ymgymryd â PFS gyda ni yn codi eich hyder ynghyd â’ch hyfedredd, ac yn bwysicach, cewch y cymwysterau fydd yn agor drysau newydd yn eich gyrfa.
Rydym ar hyn o bryd yn cynnig Prentisiaethau mewn sawl sector, ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, megis:
- Arwain Tîm
- Gwasanaeth Cwsmeriaid
- Defnyddio TG
- Gwasanaethau a Datblygu TGCh
- Gweinyddu Busnes
- Cyflawni Gweithrediadau Cynhyrchu
- Cynhyrchu Bwyd
- Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg
- Sgiliau Canolfan Gyswllt
- Cyfanwerthu, Dosbarthu, a Storio
- Technegau Gwella Busnes
- Gwasanaethau Technegol
Nid yw’r rhestr hon yn derfynol gan ein bod yn datblygu rhaglenni hyfforddiant newydd yn gyson. Cysylltwch â ni am wybodaeth bellach.
